Derwin

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:53, 23 Rhagfyr 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Derwin oedd enw trefgordd a oedd yn eiddo eglwysig, yn perthyn i Glas Clynnog-Fawr, sefydliad dysgedig gyda chymuned o fynaich, o ddyddiau'r Tywysogion hyd ddiddymiad y mynachlogydd ym 1536. Yr oedd Dr Colin Gresham yn credu mai rhan o Eifionydd ydoedd yn wreiddiol ond bod y tir wedi ei gynnwys ym mhlwyf Clynnog Fawr oherwydd i'r eglwys yno fod yn berchen arni, ac felly wedi cael ei gambriodoli i gwmwd Uwchgwyrfai, er bod rhai haneswyr yn anghytuno.[2] Gan ei bod o fewn ffiniau plwyf Clynnog i sicrwydd, a hynny ers canrifoedd beth bynnag, penderfynwyd ei chynnwys o fewn maes Cof y Cwmwd.

Saif tir Derwin rhwng trefgordd Nancall i'r dwyrain, a hen drefgordd Cwm (y naill fel y llall yn eiddo i Abaty Aberconwy) i'r gorllewin. Y ffiniau hyd y gellir eu casglu oedd

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau