Nancall (trefgordd)
Sonnir am Nancall yn hanes Math fab Mathonwy yn y Mabinogion.[1] Nancall oedd wedyn enw trefgordd eglwysig a oedd yn eiddo eglwysig ers dyddiau'r Tywysogion hyd ddiddymiad y mynachlogydd ym 1536; fe roddwyd i Abaty Aberconwy gan Llywelyn Fawr tua 1200. Y mae'r Dr Colin Gresham mai rhan o Eifionydd ydoedd yn wreiddiol ond bod y tir wedi ei gynnwys ym mhlwyf Clynnog Fawr ac felly wedi cael ei gambriodoli i gwmwd Uwchgwyrfai, er bod rhai haneswyr yn anghytuno.[2] Gan ei bod o fewn ffiniau plwyf Clynnog, penderfynwyd ei gynnwys o fewn maes Cof y Cwmwd.
Ffiniau Nancall oedd yr Afon Call i'r gogledd a'r Afon Faig i'r dwyrain a'r de. Cyrhaeddodd gopa Mynydd Craig Goch. Y ffin gorllewinol oedd Afon Dwyfach, o'r pwynt lle mae'r Afon Faig yn aberu efo'r Ddwyfach ger Pont Tafarn-faig, gan redeg ar hyd y Ddwyfach nes gyrraedd Aber Call, nid nepell o safle hen orsaf reilffordd Pant-glas.[3]
Dichon mai Hendre Nancall yw safle'r anheddiad gwreiddiol ond erbyn hyn mae cynnwys tiroedd y pedair fferm sy'n rhannu'r enw Nancall ynghyd â ffiniau fferm Tai Duon. Yr un cyntaf y gwyddys amdano i ffermio Nancall oedd John ap Ednyfed, a gafodd prydles 99 mlynedd gan Geoffrey Kyffin ("Yr Abad Coch"), Abad Aberconwy, ym 1517. Wedi diddymiad y mynachlogydd, parchwyd y brydles am weddill ei thymor.
Parhaodd Nancall yn drefgordd ar wahan hyd y cyfnod modern. Ar ôl cau'r mynydd ym 1812, symudodd ffin Nancall (a phlwyf Clynnog Fawr) o lan yr Afon Faig i'r wal gerrig a godwyd fel ffin yr adeg honno.[4]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma