Bryngaer Dinas Dinlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:54, 8 Chwefror 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Credir i Fryngaer Dinas Dinlle ddyddio yn ôl cyn belled a 3000 o flynyddoedd.

Mae erydu difrifol wedi achosi i lawer o’r hen gaer gwympo, er gellir gweld hyd heddiw ei uchelder ac gellir dychmygu sut yr edrychodd ar ei hanterth. Mae dadl rhwng haneswyr lleol o gwmpas y syniad fod y lle hwn yn rywbeth artiffisial. Mae’r ffaith fod hen lon Rufeinig yn arwain o’r caer hwn i Gaer Segont (Caernarfon) a elwid yn ‘Sarn Helen’. Mae ffyrdd ‘equestri’ a’r ‘pedestri’ (ffordd i’r marchogion, ac i’r milwyr ar draed) oedd yn arwain o’r Gaer i gyfeiriad Caernarfon a’r Foryd.

Darllen Pellach

Williams, Ifor Dinlleana, Trafodion Gymdeithas Hynafiaethol Ynys Mon 1948.

Williams, W. Gilbert Dinas Dinlle, Cymru 1905 (Cyf. 29)

Cofnod o'r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol.