Clawdd Seri

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:36, 9 Medi 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Clawdd Seri yn ffos a chlawdd sy'n rhedeg ar draws fynydd-dir Clipiau i'r de o Gurn Ddu a Bwlch Mawr. Credir iddo fod yn nodi ffin hen luest neu dir a amaethwyd gan fynaich Aberconwy yn y 13-16g.[1] Mae dros gilometr o olion, sef ffos gyda chloddiau y ddwy ochr iddi, i'w gweld ar y rhostir, yn cychwyn ym mhen pellaf Cwm Ceiliog, plwyf Llanaelhaearn ac yn rhedeg bron at y Seler Ddu ym mhlwyf Clynnog Fawr. Gan fod siartr Llywelyn ab Iorwerth, circa 1200, yn defnyddio'r enwi mae'n bosibl fod y clawdd yn dyddio cyn yr adeg pan roddwyd tioredd Cwm i Abaty Aberconwy.[2] Mae astudiaeth ddiweddar o gloddiau fel hyn trwy Brydain yn nodi mai dyma'r unig glawdd ffin yng Ngwynedd, a'i bod hi'n debygol o fod yn dyddio o'r Oesoedd Canol Cynnar.[3] Mae Llwybr Arfordir Llŷn yn rhedeg heibio i'r safle.[4]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. David M. Brown a Stephen Hughes, (gol.), The Archaeology of the Welsh Uplands (Aberystwyth, 2003), t.77 (Katherine Geary, Moel Bronymiod)
  2. Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’ Cyf II (Llundain, 1960), tt.45-6
  3. Erik Grigg, Early Medieval Dykes (400 to 850AD), Traethawd PhD Prifysgol Maanceinion, 2015, [1], cyrchwyd 9.9.2019
  4. Gwefan Coflein, [2], cyrchwyd 9.9.2019