Cwm Gwared
Cwm Gwara yw'r cwm cul y mae Afon Hen yn rhedeg ar ei hyd. Mae'r cwm yn ymestyn o ystlys Mynydd Gurn Goch ac yn rhedeg rhwng y mynydd hwnnw a Mynydd Bwlch Mawr i lawr i bentref Gurn Goch. Ym mhen uchaf un y cwm cae Coed y Ddalfa, lle ceir olion hen waith manganîs. Mae fferm o'r un enw ar ochr ogleddol y cwm. Cwm coediog ydyw, wedi ei blannu gan Ystad Glynllifon mae'n debyg. Bu'r fferm a'r cwm yn eiddo i Glynllifon.
Mae mapiau'n tueddu galw'r cwm yn Gwm Chwara. Mae Myrddyn Fardd yn ei lyfr ar enwau lleoedd yn mynnu mai enw cywir y cwm yw Cwm Gwaedd, sef Cwm Tirion neu Hynaws, ond prin bod yr esboniad yn taro tant.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ John Jones (Myrddin Fardd), Enwai Lleoedd Sir Gaernarfon (Caernarfon, d.d.), t.219