Gorsaf reilffordd Y Groeslon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:49, 9 Tachwedd 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yn wreiddiol, roedd gorsaf Y Groeslon yn arosfan ar lein Rheilffordd Nantlle, ac yn sicr bu tramiau a dynnid gan geffyl yn galw yma o 1856 hyd 1863. Mae'n bosibl fod yn hen adeilad ger y gilfach fysiau wrth ochr tafarn y Pen-nionyn wedi cael ei adeiladu fel gorsaf gan Reilffordd Nantlle; mae gan yr adeilad rai nodweddion debyg i olion orsaf Bontnewydd.

Codwyd gorsaf newydd pan agorwyd y lein fawr yr ochr arall i'r lôn a arweiniodd o'r groesffordd i gyfeiriad Glynllifon, gan ffurfio croesfan ar y lefel. Hon oedd y drydedd orsaf ar ôl Caernarfon ar lein Caernarfon - Afon-wen, milltir a 200 llath ar ôl gorsaf LLanwnda a bron i 2 filltir cyn cyrraedd gorsaf Pen-y-groes. Fe'i hagorwyd ym 1867 a chan fod yr orsaf yn gwasanaethu nid pentref Y Groeslon yn unig ond hefyd pentrefi Carmel, Y Fron a'r wlad o'u cwmpas, roedd yn orsaf brysur ar gyfer teithwyr. Gallai trenau basio ei gilydd yma, ac mae olion y ddau blatfform i'w gweld o hyd. Roedd y platfform yn isel ar ochr y ffordd fawr a rhaid i deithwyr wrth set o stepiau bach i gyrraedd y cerbydau'n ddiogel.

Adeilad bach unllawr wedi ei adeiladu yn null cwmni Rheilffordd Sir Gaernarfon oedd yr orsaf, ond fe ddymchwelwyd yn fuan wedi i'r lein gau.

Roedd un seidin ar gyfer dadlwytho glo a nwyddau eraill. Nid oedd yno focs signalau, ac roedd liferau'r signalau a'r pwyntiau yn agored i'r tywydd ar y platfform.

Galwyd Y Groeslon yn 'Groeslon RSO' - ystyr RSO yw Swyddfa Ddidoli'r Rheilffordd - nid fod dim o eiddo'r rheilffordd yn cael ei ddidoli, ond yn hytrach yr holl bost a gyrhaeddai'r orsaf ar y trên ac a ddanfonid oddi yno o'r ardaloedd cyfagos.

Fe gaewyd yr orsaf gyda gweddill y lein ym 1964.

Ffynonellau

  • LMS Branch Lines in North Wales, W.G.Rear, Wild Swan Publns., (1986), t.78.