Bendigeidfran

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:54, 5 Mai 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Bendigeidfan, neu Frân fab Llŷr, yn gawr, ac yn frawd i Franwen ferch Llŷr, yn ôl Pedair Cainc y Mabinogi. Dichon mai atgof o un o hen dduwiau'r Celtiaid oedd Brân mewn gwirionedd.[1] Nid yw Brân yn chwarae fawr ddim rhan yn y darnau hynny o Bedair Cainc y Mabinogi sy'n ymwneud ag Uwchgwyrfai ond mae Braich y Cwm, yr esgair sy'n ymwthio allan o wyneb y Garn Ganol, sef y copa canol o dri chopa mynyddoedd Yr Eifl, hefyd yn cael ei galw'n Drwyn Brân.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Meic Stephens (Gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1986), tt.51-2