Pont Lyfni

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:35, 21 Gorffennaf 2019 gan Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Pont Lyfni yw enw'r bont sy'n cario'r A499, sef hen ffordd dyrpeg o Caernarfon i Bwllheli, dros Afon Llyfnwy.

Rhoddodd y bont yr enw i'r pentref gerllaw, sef Pontlyfni.

Adnewyddwyd y bont tua'r 1950au, lledwyd y ffordd a chwalwyd Swyddfa'r Post (Tafarn y Boar's Head gynt). Mae'r waliau uchaf yn rhai modern fel nad yw'r sawl sy'n teithio drosti yn sylwi ei bod yn weddol hen.[1] Mae sôn am y bont mewn dogfen o'r Llys Chwarter ym 1776. Cafodd Henry Parry, Moel-y-don, Ynys Môn, saer olwynion a John Hughes, Caernarfon, saer olwynion y contract am godi'r bont newydd am y swm o £460. Nodir yn y ddogfen fod yr hen bont, sef Pont-y-Cim yn "annigonol, anghyfleus ac angen ei thrwsio" a'r penderfyniad oedd codi pont newydd sbon ar y ffordd dyrpeg mewn man newydd.[2] Roedd iddi dri bwa. Roedd carreg yn nodi blwyddyn ei hagor yn 1777 arni,ynghyd â llythrennau'r adeiladwyr. Gosodwyd y garreg hon ar y lloches bws gerllaw ynghyd â'r llechen hon â'r "englyn" hwn wedi ei dorri arni. Sylwer mai "saer melinau" yw John Hughes, mai Llyfni yw'r afon yn hytrach na Llyfnwy a bod rhai llythrennau yn aneglur:

Blwyddyn codi'r bont 1777
Englyn ar yr hen bont

Dehonglir yr englyn ar y llechen a welir yn y llun fel a ganlyn:

         Pont hirfaith pont i'r gwaith gwiw
         Pont glòs odiaeth pont glws ydyw
         Pont ar li Lyfni liw
         Pont ddeil ond dŵr dyliw."
              J. Hughes, Saer Melina
                  Carnarvon 1777


Cyfeiriadau

  1. Comisiwn Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf.2, t.45
  2. Archifdy Caernarfon XPlansB/158