Gorsaf reilffordd Bryngwyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:25, 18 Ionawr 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Gorsaf Bryngwyn ym 1934

Gorsaf Bryngwyn oedd yr orsaf derfynol ar gyfer teithwyr ar gangen Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru ("y North Wales Narrow Gauge Railways") a gychwynnodd o'r brif lein yng Nghyffordd Tryfan gan redeg trwy Rostryfan. Safai ar waelod incléin hir a gludai wagenni llawn o lechi o chwareli o amgylch Moel Tryfan a'r Fron. Daeth cludo teithwyr i ben ar y gangen 31 Rhagfyr 1913. Parhaodd trenau nwyddau i gludo llechi oddi yno nes i'r chwareli ddechrau cludo eu llechi ar lorïau i Ben-y-groes lle roedd man llwytho llechi wedi cael ei godi gan y lein fawr ym 1933. Y prif ddosbarth arall o nwyddau a gludid oedd glo ar gyfer pentrefi'r ucheldir gerllaw. Yn swyddogol, daeth pob gwasanaeth i ben ym 1937 a chodwyd y lein yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma