Plas Tryfan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:06, 8 Gorffennaf 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Plas Tryfan neu'r Tryfan Mawr yn dŷ neu blasty ar gyrrion plwyfi Llandwrog a Llanwnda ym mhlwyf Llandwrog, nid nepell o bentrefan fodern Maestryfan. Bu'n gartref i deulu Grifffiths, ac roedd gwraig y plas yn y 1650au, Dorti (neu Dorothy) Griffiths, er yn aelod o'r bonedd, yn uchel ei chloch ac mewn trafferth gyda'r awdurdodau am ffraeo.

Roedd ystad y Tryfan Mawr yn cynnwys Tryfan ei hun a'r ffermydd islaw'r plwyf, yn cynnwys Dolydd-irion yn y Dolydd. Bu'n gartref i deulu Williams wedi i deulu Griffiths fynd o'r plas. Er bod Robert Williams yn ffermwr a chigydd o feddygon yn y 20g cynnar a sonnir o hyd am "Ddoctor Tryfan". Roedd Dr William Edward Williams, disgynnydd olaf y teulu, yn feddyg tua Wrecsam.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau