Capel y Morfa (MC), Dinas Dinlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:02, 30 Mehefin 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Capel y Morfa yn gwasanaethu cymuned amaethyddol pen pellaf Dinas Dinlle. Enw'r trigolion lleol arno oedd "Capel Bach y Morfa". Cangen ydoedd o Gapel Bwlan, unig gapel pentref Llandwrog. Saif yr adeilad, sydd wedi ei werthu'n bur ddiweddar (2018) a'i droi'n dŷ gwyliau, wrth Maes Carafanau Morfa Lodge, ar gornel y lôn oedd arfer arwain at Fferm y Warren. Yn ystod blynyddoedd mwy diweddar ei eos fel capel, ni chynhelid gwasanaethau ond yn ystod yr haf.[1]

Mae'r adeilad wedi ei werthu'n bur ddiweddar (2018) a'i droi'n dŷ gwyliau, ar ôl sefyll yn wag ers blynyddoedd a dechrau mynd â'i ben iddo.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth gan drigolion lleol