Band Carmel

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:00, 27 Mehefin 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ffurfiwyd Band Carmel ym mhentref Carmel ym mlynyddoedd olaf y 1870'au a hynny mewn cysylltiad â Chlwb Carmel, y 'Gymdeithas Gyfeillgar' fel y'i gelwid. Mae'n amlwg mai dyna pam y rhoddwyd yr enw crand Uwchllifon Brass Band ar yr ensemble fechan hon.

Oes fer, fodd bynnag, fu i Fand Carmel druan, ac ychydig iawn o'i hanes sydd ar gael yn unman. Gwyddom iddo fod yn difyrru plant ac athrawon Ysgol Sul Capel Cilgwyn (A) ym 1879, wedi i'r rheini gael eu gwala a'u gweddill o de a bara brith. Dyma'r math poblogaidd o barti'r oes honno - 'te-parti' yn llythrennol felly. [1]

Cyfeiriadau

  1. Geraint Jones, Cyrn y Diafol (2004)