Band Carmel

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:52, 27 Mehefin 2019 gan 92.3.9.210 (sgwrs)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ffurfiwyd Band Carmel ym mhentref Carmel ym mlynyddoedd olaf y 1870'au a hynny mewn cysylltiad â Chlwb Carmel, y 'Gymdeithas Gyfeillgar' fel y'i gelwid. Mae'n amlwg mai dyna pam y rhoddwyd yr enw crand Uwchllifon Brass Band ar yr ensemble fechan hon.

Oes fer, fodd bynnag, fu i Fand Carmel druan, ac ychydig iawn o'i hanes sydd ar gael yn unman. Gwyddom iddo fod yn difyrru plant ac athrawon Ysgol Sul Capel y Cilgwyn (A) ym 1879, wedi i'r rheini gael eu gwala a'u gweddill o de a bara brith. Dyma'r math poblogaidd o barti'r oes honno - 'te-parti' yn llythrennol felly.<ref>Geraint Jones, Cyrn y Diafol (2004)