Alwyn Hughes-Jones
Alwyn Hughes-Jones oedd Uchel Siryf olaf Sir Gaernarfon, ym 1973-4. Bu'r swydd mewn bodolaeth ers y Canol Oesoedd, er iddi droi'n swyddogaeth seremonïol ymhell cyn yr 20g. Wedi 1974, penodwyd Uchel Siryf ar gyfer sir newydd Gwynedd.[1]
Roedd Alwyn Hughes-Jones yn gyfrifydd wrth ei alwedigaeth gyda'i bractis yng Nghaernarfon. Ei gartref am flynyddoedd lawer hyd ei farwolaeth oedd Bodarfryn, tŷ yn y Dolydd nid nepell o'i gapel, Capel Bryn'rodyn (MC), Y Groeslon, lle bu'n aelod amlwg ac yn flaenor. Dywedir iddo fod yn hael iawn at yr achos.
Roedd yn gynghorydd sirol a henadur yn yr hen Sir Gaernarfon, ac wedyn yn sir newydd Gwynedd.
Bu'n gefnogol iawn i'r "pethe" yn gyffredinol gan weithredu fel trysorydd ambell i fudiad. Bu'n drysorydd Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1959. [2]Ef oedd trysorydd y Pwyllgor Dathlu a ffurfiwyd ym 1965 ar achlysur nodi canmlwyddiant sefydlu'r Wladfa ac roedd yn un o'r criw a ymwelodd â'r Ariannin i ddathlu'r achlysur.[3]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma