Trefgorddau Uwchgwyrfai

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:43, 12 Mehefin 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Dyma restr o drefgorddau Uwchgwyrfai. Y drefgordd (lluosog Trefgorddau, Trefgorddion, Trefgyrdd) oedd yr israniad gwladol lleol lleiaf dan y Tywysogion ac mae'r rhaniadau hyn wedi parhau hyd heddiw mewn rhai wardiau etholiadol ac ati. Yn sicr, hyd y 17g, arferid weithiau gyfeirio at leoliad eiddo yn ôl y drefgordd yn hytrach nag yn ôl y plwyf, er i'r plwyf ddod yn elfen lywodraeth eglwysig yn y Canol Oesoedd ac fe fabwysiadwyd y plwyf dan y drefn Duduraidd yn y 16g fel yr uned leiaf o lywodraethu at ddibenion sifil. Weithiau, gwelir gweithredoedd o'r 18g yn dal i nodi trefgordd, yn hytrach na phlwyf, fel lleoliad fferm neu dŷ - mae gweithredoedd o Ystad Lleuar yn gwneud hyn yn gyson.[1] Weithiau cyfeirir at drefgordd fel tref ddegwm, ac yn Saesneg fel township.[2]

Plwyf Clynnog Fawr

  • Bryncynan
  • Cwm
  • Pennardd

Plwyf Llanaelhaearn

  • Bodgyfelach
  • Eleirnion

Plwyf Llandwrog

  • Dinlle (rhan)

Plwyf Llanllyfni

  • Eithinog
  • Nantlle

Plwyf Llanwnda

  • Bodellog
  • Dinlle (rhan)

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, XD2/7550-7640
  2. Melville Richards, Welsh Administrative and Territorial Units (Cardiff, 1969), passim.