W.A. Provis

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:54, 10 Mehefin 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd William Alexander Provis (1792-1870) yn beiriannydd a syrfewr a fu'n gyfrifol fel peiriannydd preswyl Thomas telford wrth i Bont Menai gael ei chodi. Fe'i anwyd yn Swydd Gaergrawnt, ond teithiodd ymhell lle bynnag y câi waith ym Mhrydain, cyn ymddeol i ystad fechan yn Ellesmere, Swydd Gaer.[1] Bu'n byw ger y Garth ym Mangor tra oedd y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo, a chafodd waith ar yr ochr (fel petai) yn gwneud yr arolwg a'r mapiau statudol ar gyfer adeiladu Rheilffordd Nantlle ac yn y cyd-destun hwnnw mae ganddo le yn hanes Uwchgwyrfai. Mae ei fap gwreiddiol yn dangos llwybr y Rheilffordd Nantlle arfaethedig ar gael hyd heddiw yn Archifdy Caernarfon.

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Graces Guide to British Industrial History [1], cyrchwyd 10.6.2019