Capel Bethsaida (A), Y Bontnewydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:29, 31 Mai 2019 gan Gwylan (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Capel gwreiddiol yr Annibynwyr yn Y Bontnewydd oedd Capel Bethsaida. Safai yn y darn o'r pentref a elwir yn @awrynys, y tu draw i Res Malsters ar ochr Llanwnda i Afon Gwyrfai.[1]

Bu achos anffurfiol yn y Bontnewydd mor gynnar ag 1820 pan gychwynnodd cyfarfodydd pregethu yn y pentref gan un W. Jones, Caernarfon (a aeth wedyn i Amlwch). Rhoddwyd tir i godi'r capel cyntaf gan H. Evans, Henblas, Môn, ac fe'i agorwyd 27 Mawrth 1826, gyda'r enw Bethsaida. Safai'r hen gapel hwn ar safle'r tai modern y tu draw i Res Malsters. Araf oedd yr achos i ddenu aelodau er bod llawer yn gwrando ar y pregethau a gynhelid ar bnawniau Sul. Ar ôl cynnal cysylltiad â chapel yr Annibynwyr a'i weinidog yng Nghaernarfon am flynyddoedd, newidwyd ym 1860 i rannu cyfrifoldebau â Chapel Saron (A). Aeth yr adeilad gwreiddiol yn annigonol a gwael ac agorwyd capel newydd, sef yr adeilad presennol, ar safle amgenach ar y Lôn Groes,17 Mawrth 1868.[2]

Roedd rhes o saith tŷ gerllaw'r capel, a elwid yn Rhes Bethsaida. Dichon i gapel Bethsaida gael ei dymchwel neu ei addasu ym 1867 pan ailadeiladwyd y rhes. Roedd y tai'n dal i sefyll fel cartrefi yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac ni ddymchwelwyd y rhan olaf o'r teras tan y 1990au, er nad pedd neb wedi bod yn preswylio yno ers degawdau.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Robert Wyn, Colofn Hanes , Lleu rhif 506, Ebrill 2019
  2. T. Rees a J. Thomas, Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, Cyf. 3, (Lerpwl, 1873), tt.248-9
  3. Robert Wyn, op. cit.