Capel Soar (A), Pen-y-groes

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:05, 24 Chwefror 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Capel Annibynnol ym mhentref Pen-y-groes yw Capel Soar, Pen-y-groes.

Adeiladwyd y Capel tua 1836, a lleolwyd hi ar y Stryd Fawr, Pen-y-groes. Y pensaer oedd Thomas Thomas, Glandŵr, sef y sawl a gynlluniodd Capel Saron (A), Llanwnda hefyd.

Ym 1846-7, roedd 28 o ddisgyblion yn yr ysgol Sul dan 15 oed, a 31 dros yr oedran honno.[1]

Tynnwyd y Capel i lawr yn yr 1980au, a bellach mae'r gwasanaethau yn cael eu cynnal yn y Festri.[2].

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Llyfrau Gleision, sef Reports of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales Atodiad i Gyf.III (Llundain,1847), tt.274-282
  2. Cofnod o'r Capel yma ar wefan y Comisiwn Brenhinol