Pont Storws

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:50, 14 Ionawr 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Pont Storws

Mae Pont Storws yn sefyll ym mhlwyf Llanwnda ar y ffordd o Saron i gyfeiriad Llandwrog, nid nepell o fferm Chatham. Bwa carreg isel yw, dros Afon Rhyd (neu, yn ôl y cynlluniau, Afon Glan-rhyd neu Afon Storws), ychydig cyn i'r afon honno ymuno â'r Afon Carrog.[1]

Fe'i hadeiladwyd o'r newydd ym 1846, er i'r bont gael ei dylunio ym 1837 gan syrfewr y sir, John Lloyd. Pont newydd ydoedd, wedi ei hadeiladu gan Owen Prichard, saer maen o'r Bontnewydd, ar gost o £73.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Map OS 6" i'r filltir, 1953.
  2. Archifdy Gwynedd, XPlansB/47