Sarn Helen

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:09, 11 Ionawr 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Derbynnir yn gyffredinol mai Sarn Helen oedd y ffordd Rufeinig a gysylltai gaerau Nidum (Castell Nedd) a Canovium (Caerhun yn Nyffryn Conwy), ond mae llawer yn defnyddio'r enw ar gyfer y ffordd Rufeinig a redai (mae'n bur debyg) i gyfeiriad y de o Gaernarfon i gyfeiriad Tomen y Mur ger Trawsfynydd, lle mae'n ymuno â'r brif ffordd Sarn Helen.[1]

Er gwaethaf y ffaith fod rhai mapiau Ordnans yn dangos "Sarn Helen" ar ambell i fap, mae dadl yn parhau parthed llinell, a hyd yn oed fodolaeth, rhai darnau o ffordd Rufeinig. Mae'r astudiaeth ddiweddaraf[2] yn awgrymu bod ffordd o Gaernarfon ar draws bryniau Uwchgwyrfai i gyfeiriad Bryncir, lle ceir olion gwersyll Rhufeinig ym Mhen Llystyn. Credir, fodd bynnag, fod y rhan fwyaf o'r llinell o dan ffyrdd a lonydd gwyrdd presennol ac nid oes tystiolaeth bendant ohoni felly. Ni ddylid ystyried enw Penfforddelen, Y Groeslon, fel tystiolaeth ychwaith, gan mai Pen y Ffordd Felen oedd yr enw'n wreiddiol nes i awydd am ganfod cysylltiadau ag Elen Luyddog a Segontiwm lurgeinio sawl enw lle yn lleol (er enghraifft, trodd Coed Alun yn Goed Helen).

Mae'r gairSarn yn yr achos yma yn cyfeirio at ffordd wedi ei wynebu â slabiau neu gerrig sylweddol.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gweler yr erthygl yn Wicipedia, [1]
  2. Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd, Roman Roads in North-West Wales, Adroddiad Rhif 668, 4ydd Adolygiad, 2007 [2]