Dôl Meredydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:26, 11 Ebrill 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Dôl Meredydd yn gasgliad bach o dai ar y ffordd gefn o Glan-rhyd i Llandwrog. Cymerwyd yr enw oddi wrth fferm Dôl Meredydd sydd gerllaw.

Mae'n sefyll ar ddwy lan Afon Carrog o bobtu'r ffin rhwng plwyfi Llandwrog a Llanwnda, lle ceir Pont Pant-y-rhedyn, (y mae Pant-y-rhedyn yn gyferbyn â Dôl Meredydd yr ochr arall i'r afon).. Prif nodwedd y pentrefan bach hwn heddiw yw'r rhes fer o dai a godwyd fel tai cyngor ar gyfer gweithwyr amaethyddol ynystod y 1930au, mae'n debyg.