Appii Forum

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:38, 7 Chwefror 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Enw tŷ annedd digon di-nod yn Y Groeslon, nid nepell o Benfforddelen yw Appii Forum. Enw Lladin yw hwn am y fan, tua 50 milltir o Rufain, lle cyfarfu'r Apostol Paul â'r brodyr Cristionogol a oedd wedi dod i'w groesawu ar ei siwrne tua Rhufain.[1] Yr hanes yw fod y tŷ newydd gael ei godi gan un William Williams (1824-1884), ond heb gael enw, pan gyfarfu nifer o deuluoedd yno i ddathlu priodas. Daeth yr enw i'w feddwl wrth i rywun holi beth oedd enw'r tŷ yn ystod y cynulliad dan sylw.

Anghywir, felly, yw gweld unrhyw gysylltiad hynafol â ffordd Rufeinig Sarn Helen a redai gerllaw'r safle. Ceir sôn am Appii Forum am y tro cyntaf ym 1839 yn Llyfr Treth Llandwrog, pan gaiff ei sillafu'n Epiffori; weithiau ceir ffurfiau megis Appi Fferam ac Appiifforum hefyd.[2]

Yn ystod blynyddoedd cynnar yr 20g., bu busnes gwerthu llyfrau yn y tŷ gan y teulu.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Actau, XXVIII, ad.15
  2. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd (Caernarfon, 2011), tt.14-15
  3. Gweler yr erthygl gan Eluned Jones, Atgofion y Groeslon gan Eluned Jones