Y Bontnewydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:34, 5 Ebrill 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Pentref rhwng tref Caernarfon a Dinas yw'r Bontnewydd. Trwy ganol y pentref ceir y ffordd A487, sy'n arwain at Bwllheli a Porthmadog. Serch yr enw, nid y bont bresennol a godwyd tua 1840 roddodd yr enw i'r pentref. Mae'r enw yn cyfeirio at bont flaenorol dros Afon Gwyrfai. Sonnir am lle a elwid the new brige ger Caernarfon ym 1552.[1] Mae'r bont bresennol yn dyddio o 1840.[2]

Dim ond ychydig o dai teras, melin, bythynnod a ffermydd oedd yno ar un cyfnod, gyda nifer o dafarndai wedi eu dotio ar hyd y ffordd fawr. Yn ystod y 20g, codwyd dwy ystâd o dai cyngor a phedair o rai preifat, i gyd ar ochr Isgwyrfai i'r afon. Mae'n debygol fod llawer yn defnyddio'r Bontnewydd fel man aros tra roeddynt yn teithio o Ben Llŷn tua Chaernarfon.

Roedd y Bontnewydd yn cael ei rannu fel pentref rhwng plwyfi Llanbeblig (trefgordd Castellmai) a Llanwnda tan ddegawd olaf y 20g pan unwyd y ddwy ochr i ffurfio cymuned newydd yn cynnwys y pentref, Rhos Bach a phlwyf Llanfaglan, ynghyd â'r darn o blwyf Llanwnda yn cynnwys Plas Dinas hyd at Ffrwd Cae Du.


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, Llyfr Amodrwymau'r Llys Chwater, Ebrill 1552, t.5
  2. Archifdy Caernarfon, XPlansB/40