Pont Tŷ Nant

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:36, 5 Ebrill 2019 gan 92.3.11.213 (sgwrs)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Pont Tŷ Nant neu Pont Tŷn-y-nant, yn croesi Afon Llifon ym mhlwyf Llandwrog ger y tŷ o'r un enw ar y lôn sy'n croesi rhwng y ffyrdd sy'n arwain at Bwllheli a Phenmorfa, sef Lôn Cefn Glyn. Dichon mai'r bont dan y ffordd a guddir gan Wal Glynllifon ger Pen'rallt[1] yw'r dogfennau sy'n cyfeirio ati. Adeiladwyd pont newydd sbon yn lle'r bont a oedd yno gynt ar y safle ym 1837 i gynllun a wnaed gan John Lloyd, syrfewr y sir, gan Thomas Humphreys, Plas Mawr, Y Groeslon, ffermwr lleol, am y swm o £69. Diddorol yw sylwi, er bod cynllun a manyleb wedi eu paratoi ar gyfer y gwaith, nid oedd Humphreys yn gallu llofnodi'r dogfennau gan ei fod yn anlythrennog. [2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, XD88/1/2
  2. Archifdy Gwynedd, XPlansB/46