Pont Llwyn-y-gwalch

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:49, 13 Ionawr 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Pont Llwyn-y-gwalch yn sefyll ar draws Afon Llifon ym mhlwyf Llandwrog, ger plasty bychan o'r un enw. Mae'r hen lôn dyrpeg (yr hen A487) yn croesi'r bont.

Ail-adeiladwyd y bont ym 1839-40 ar gost o £105 gan Lewis Williams, saer maen o Gaernarfon. Ail-ddyluniwyd y bont gan John Lloyd, syrfewr y sir. Gostyngwyd lefel yr afon o ddwy droedfedd, a chreu bwa sengl.[1]

Fe'i cryfhawyd pan ddad-drynceiddiwyd y lôn tua 2000.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XPlansB/50
  2. Gwybodaeth bersonol