Pont Faen (Llanwnda)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:21, 5 Ebrill 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Pont Faen yw'r bont isaf ar Afon Gwyrfai, ac mae wedi rhoi ei enw i'r fferm gerllaw. Saif ar ffin cwmwd Uwchgwyrfai ger pentref modern Saron, rhwng plwyfi Llanwnda a Llanfaglan (sydd yn Isgwyrfai), ar y ffordd o Gaernarfon i Landwrog. Ar un adeg roedd ffrwd felin yn rhedeg o'r afon ben ucha'r bont i'r felin, Melin y Bont-faen, a safai ychydig yn nes at y môr. Gan fod y felin honno wedi ei hadeiladu tua dechrau'r 17g, dichon bod bont gynharach na'r un bresennol wedi croesi'r afon yn y fan hon.

Cafodd y bont ei atgyweirio gan William Humphrey, Morfa Cwta, Llanfaglan, saer maen a David Evans, Sarn Dwr Garw, plwyf Llanbeblig, ym 1821 am £28.[1]

Adeiladwyd y bont o'r newydd ym 1833-4 fel pont gyda dau fwa 16' ar draws dros yr afon. William George Owen, Caernarfon, peiriannydd oedd y contractor, a wnaed y bont yn unol â chynllun John Lloyd, syrfewr y sir am £180.[2] Fodd bynnag, cafwyd lli anarferol o fawr ar 12 Rhagfyr 1852 a chwalwyd y bont newydd hon, a rhaid oedd codi pont newydd sbon eto, gydag un fwa 42 troedfedd o led yn ei lle. William Thomas, adeiladydd, Caernarfon oedd y sawl a gontractiwyd i wneud y gwaith, a hynny am y gost o £500.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, XPlansB/88
  2. Archifdy Caernarfon, XPlansB/36.
  3. Archifdy Gwynedd, XPlansB/88