Perchnogion chwareli llechi

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:48, 19 Chwefror 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yr oedd nifer o berchnogion chwareli llechi yn Nyffryn Nantlle o'r dyddiau cynharaf ymlaen. Yn y cyfnod modern, cychwynnwyd cloddio am lechi oddeutu 1750 ar ochr Mynydd Cilgwyn, a hynny'n answyddogol, hynny yw heb ganiatâd y tirfeddiannwr honedig, sef Coron Lloegr. O 1800 ymlaen, tyfodd y diwydiant ac unwyd chwareli bach yn unedau mwy dan reolaeth neu berchnogaeth nifer fechan o berchnogion. Rhywbeth nad yw'n cael ei sylweddoli'n aml oedd cyn lleied o dir oedd gan Arglwydd Newborough yn y dyffryn ei hun ac felly cyn lleied oedd ei ddiddordeb yn y fasnach lechi yno; roedd ganddo chwareli mawr yng Nglynrhonwy, Cedrun (Dyffryn Conwy) a Ffestiniog.

Yng Nghyfeiriadur Masnach Pigot, 1828-9, enwir y canlynol:

  • Chwarel Ceunant y Glaw: Cyrnol Hughes, (asiant lleol, J. Trimmer)
  • Chwarel Coedmadog: George Bettiss
  • Chwarel Green: George Johnson
  • Chwarel Hafod-las: Mrs Humphreys
  • Pen-y-bryn: Richard Garnons (asiant lleol, Owen Jones)
  • Chwarel Tal-y-sarn: Smith a'r cwmni[1]


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Cyfeiriadur Pigot, 1828-9 (copi yn Archifdy Caernarfon)