Dewi Tomos

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:10, 3 Ionawr 2019 gan 92.3.3.42 (sgwrs)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Dirprwy brifathro Ysgol Bro Lleu oedd Dewi Tomos (1943 – 2012) cyn ymddeol, ac yn llenor, cenedlaetholwr brwd, hanesydd, naturiaethwr, rhedwr a cherddwr a ymhyfrydodd yn nhreftadaeth ei fro nes iddo gyfoethogi diwylliant Cymru gyfan. Ei enw bedydd oedd Dewi Hywel Tomos ond yr enw Dewi Tomos a welir ar bob un o'i gyhoeddiadau.Bu’n weithgar yn yr ymgyrch i sicrhau cymhorthal Cronfa Dreftadaeth y Loteri i adnewyddu Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts yn Rhosgadfan a agorwyd yn 2007 ac ef oedd Cadeirydd brwd y Ganolfan yn ei flynyddoedd olaf. Byddai ei frwdfrydedd a’i ddyfalbarhad yn ysbrydoliaeth i bawb a rhan bwysig o’i weithgareddau fyddai arwain teithiau cerdded i ddosbarthiadau o blant ysgol a grwpiau o oedolion o gwmpas yr aral i’w dysgu am Kate Roberts a’i gwaith a’i chefndir chwarelyddol a’r chwarelwyr a’r tyddynwyr a byd natur, ac yn aml iawn byddai ei ferch, Gwenllian yn mynd gydag ef i ddarllen darnau perthnasol o waith Kate Roberts a llenorion eraill yr ardal. Byddai hithau hefyd yn gyfrifol am nifer fawr o weithgareddau yn y Ganolfan, i blant ac oedolion.

Enillodd nifer o gadeiriau a medalau a gwobrau cenedlaethol ac fe’i hurddwyd yng Ngorsedd Eisteddfod Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Meirion a’r Cyffiniau, 2009, i’r Urdd Ofydd er Anrhydedd.

Cyhoeddodd lyfrau a darlithiau sydd yn drysorfeydd o hanes a thraddodiadau lleol, e.e. Llyfrau Llafar Gwlad 72: Llyfr Lloffion Cae’r Gors, Gwasg Carreg Gwalch, 2009; O Gwmpas y Foel, Gwasg Carreg Gwalch, 2007; The Quarrymen’s Tyddynnod, Gwasg Carreg Gwalch, 2007; Llyfrau Llafar Gwlad 67: Chwareli Dyffryn Nantlle, Gwasg Carreg Gwalch, 2007; Darlith Flynyddol Cyfeillion Cae'r Gors, 2006. Teulu: 'Ni welsom erioed gyfoeth'; Cyfres Broydd Cymru 16: Eryri, Gwasg Carreg Gwalch, 2005; Llyfrau Llafar Gwlad 59: Tyddynnod y Chwarelwyr, Gwasg Carreg Gwalch, 2004; Darlith Flynyddol Llyfrgell Pen-y-groes,Atgof Atgof Gynt, Cyngor Gwynedd, 1997; Straeon Gwydion, Gwasg Carreg Gwalch, 1990; Crwydro Bro Lleu, Gwasg Carreg Gwalch, 1990.

Ganwyd a magwyd Dewi yng Ngharmel. Gwelfor oedd ei gartref ef a'i wraig, Mair, yn Rhostryfan. Cawsant dri o blant: Gwydion, Rhiannon a Gwenllian.[1]

Cyfeiriadau

  1. Rhaglen y Dydd, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Meirion a'r Cyffiniau, 2009 a Gwybodaeth Bersonol.