Gwaith Llechi Llifon
Roedd Gwaith Llechi Llifon (neu Gwaith Hafod-y-nant) tua chwarter milltir i fyny'r allt o dreflan Maes Tryfan, ar lan Nant yr Hafod, sy'n llifo i Afon Llifon. Weithiau, fe alwai pobl yr ardal y gwaith hwn "yr injian". Roedd dŵr yn cael ei gyfeirio yno hefyd o lyn ger Braich Trigwr Mawr, er mwyn troi olwyn ddŵr a yrrai beiriannau'r gwaith, a gynhyrchai lechi ysgrifennu a cherrig nadd. Robert Jones oedd enw perchennog y gwaith.[1]
Roedd y gwaith llechi i'r dwyrain o'r lôn fach sydd yn rhedeg o gyfeiriad Rhosnenan a'r Groeslon i bentref Maes Tryfan rhwng Hafod-boeth a Phen-y-bont. Mae tŷ newydd wedi ei godi ar y safle. Mae'r map Ordnans cyntaf ar raddfa fawr, (1887) yn nodi bod y gwaith eisoes wedi cau.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma