Chwarel Tyddyn Agnes
Chwarel lechi bychan oedd Tyddyn Agnes, yn agos i Chwarel Ty'n Llwyn, rhwng Tal-y-sarn a Llanllyfni. (SH 488520).
Twll bychan oedd Tyddyn Agnes, a chredir iddi ei gweithio gan o gwmpas ugain o weithwyr rhwng 1860 a 1870. Credir i'r nifer yma ostwng yn sylweddol hyd at ei chau tua 1890.[1][2] Credir i lechi o'r chwarel hon gael ei anfon at brif lein Rheilffordd Nantlle, ac wedyn Cangen reilffordd Nantlle ar hyd Rheilffordd Chwareli Llechi Sir Gaernarfon, enw crand ar dramffordd 3' 6" o led a wasanaethai ddwy neu dair o chwareli ar ochr ddeheuol y dyffryn.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma