Chwarel Blaen-y-cae
Chwarel lechi oedd Chwarel Blaen-y-Cae ger Chwarel Dorothea a Chwarel y Fron ger Nantlle.
Chwarel fechan oedd y chwarel hon, ac agorwyd hi o gwmpas 1830. Cariwyd llechi'r chwarel hon ar flondin arbennig, ac ar inclein chwarel Cilgwyn i Dal-y-sarn. O gwmpas 40 o ddynion oedd yn gweithio yno pan yr oedd ar ei phrysuraf, a chynhyrchodd 800 tunnell yn flynyddol yn y cyfnod hwn.[1]
Cafodd ei huno ym 1905 gyda chwarel Tal-y-sarn ac aeth perchennog nifer o chwareli eraill, Thomas Robinson, (perchennog Chwarel Tan'rallt, Cloddfa'r Coer a Chwarel Braichmelyn hefyd. Dywedir iddi gau cyn yn y 1930au, ac mae Jean Lindsay yn dyfynnu'r dyddiad 1909 ar ôl iddi gael ei phrynu (ond nid ei gweithio) gan gwmni Chwarel Dorothea.[2].
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma