Chwarel Fein-goch

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:45, 17 Hydref 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel Feingoch oedd un o dyllau Chwarel Cilgwyn yn y diwedd, ond mi gychwynnodd fel chwarel ar wahân, wedi ei rhedeg gan nifer o bartneriaid, sef John Price, Thomas Jones, John Evans a Richard Roberts a gafodd brydles i chwarelydda ar dir y Goron tua 1800. Erbyn 1810 roeddent yn defnyddio tramffordd i gludo ysbwriel cloddio i'r domen, y rheilffordd gyntaf y clywir amdani yn Nyffryn Nantlle. Roedd y twll yn dal i gynhyrchu, mae'n debyg - a barnu oddi wrth fapiau'r Ordnans - hyd ddiwedd y ganrif.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

.

  1. GH Williams, Swn y tren sy'n taranu, (Caernarfon, 2018).