Uwchgwyrfai

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:27, 19 Hydref 2017 gan Robin Owain (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Uwchgwyrfai yn un o gymydau (neu raniadau gweinyddol) hynafol Sir Gaernarfon (a thywysogaeth Gwynedd cyn hynny) er nad yw'n bodoli fel uned weinyddol bellach. Mae i'r cwmwd bum plwyf, sef Clynnog-fawr, Llanaelhaearn, Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda. Yn wreiddiol fe ddilynai ffin y cwmwd glannau de-orllewinol yr afon Gwyrfai o'r môr hyd ei tharddiad yn ardal Rhyd-ddu, ond fe gollwyd peth tir i blwyfi eraill yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ystyr yr enw yw 'y tir yr ochr draw i'r afon Gwyrfai', a hynny oherwydd iddo fod yr ochr draw o safbwynt y llys yn Abergwyngregyn. Y rhan o dir oedd yn agosach at y llys oedd Is-gwyrfai, sef y plwyfi i'r gorllewin o Landygái, sef Pentir hyd at Llanbeblig, Llanfaglan a Betws Garmon.