Mynachdy Gwyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:48, 11 Hydref 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Mynachdy Gwyn gyda Mynydd Cennin yn y cefndir

Mae Mynachdy Gwyn, hen gartref teulu Meredyddiaid yn y 16-18g, yn rhan uchaf plwyf Clynnog Fawr, nid nepell â'r ffin ag Eifionydd, ar waelod llethrau Bwlch Mawr ger fferm Cwm. Er bod y tŷ presennol yn hynafol, mae rhannau o dŷ hŷn yn gynwysedig yn y ffabrig, ac yn dyddio'n ôl i'r 16g.[1] Roedd y teulu'n dirfeddianwyr o sylwedd, ond heb fod ymysg y rhai mwyaf sylweddol. Bu rhai o blant y teulu fodd bynnag yn priodi aelodau o un o deuluoedd mwyaf y fro, sef Teulu Glynniaid Glynllifon, efallai er mwyn cryfhau'r rhwydwaith o deyrngarwch a dibyniaeth a fyddai'n ychwanegu at ddylanwad Glynllifon ymysg mân-fonheddwyr y fro.

Mae cofebion i ddauo'r teulu yn y 17g, Gaynor Meredydd a Huw Meredydd ei gŵr (a fu farw 1670) yn Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr.[2]

“Darllenais unwaith fod cofnod o Fynachdy Gwyn yn y flwyddyn 616 OC pan sefydlwyd y fynachlog yno gan ddisgybl i Sant Beuno o’r enw Gwyddaint.  

Gellir dychmygu mynachlog ar y safle, sydd mewn pant cyfforddus wedi ei warchod gan y Bwlch Mawr a Phen y Gaer, gyda’r Afon Wen yn treiglo heibio a sylfaen o garreg oddi tani. Pan fo’r haul yn suddo ar hwyrnos haf, neu frathiad cyntaf oerni’r hydref, nid oes fwynach fan. Meddyliaf yn aml am y llinell ‘gwres mawn a gras mynach’.

Adnewyddwyd y fynachlog ar un adeg ar gyfer y Mynaich Gwyn. Mae’n bosibl i’r mynaich hyn fod yno hyd nes y dinistriwyd eu mam-Eglwys yng Nghlynnog yn 979 OC.

Mae’r cyfeiriad nesaf at Fynachdy yn gysylltiedig â Llywelyn Fawr a oedd erbyn hyn yn berchen ar diroedd trefgordd ‘Cwm’ a oedd yn cynnwys Hengwm, Sychnant, Tyddyn Ithel, Tyddyn Mawr, Bryn Brych a’r Gyfelog. Fe’i rhoddodd i’r mynaich yn Abaty Aberconwy.

Ar ôl Diddymu’r Mynachlogydd yn 1536, rhoddwyd y faenor gan y Goron i Syr John Puleston. Ar yr un adeg fodd bynnag, roedd Thomas ap Gruffith ap Jenkyn ap Rhys wedi prynu les ar ‘Cwm’ ac wedi symud yno gyda’i deulu i fyw. Byddai ei ddisgynyddion ef yn ymgartrefu ym Mynachdy.

Yn fuan yn y 17eg ganrif, ceir hanes Humphrey Meredydd, sef ŵyr Thomas ap Gruffith, yn byw ym Mynachdy. Bu ef yn Siryf ar y Sir yn 1614. Tybed pa ffordd y byddai ei geffyl yn carlamu am y Llys yng Nghaernarfon? Aeth ei frawd, Owen Meredydd, i astudio yng Ngholeg All Souls gan ennill gradd BD yn 1591. Mae cerrig cerfiedig hardd ei feddrod o hyd oddi fewn i Eglwys Llanwnda yn Dinas. Bu priodasau yn y teulu i ferched Madryn, Glynllifon a Phenarth.

Dros amser, daeth ffermio yn rhan sylfaenol o fodolaeth ym Mynachdy ac ystad Aberdeunant a oedd yn berchen arno olaf.

Dywedir ar lafar fod cyfamod na ddylid aredig un cae arbennig ac ni wnaed hyn ers i Taid symud yno yn 1935.

Mae’n debyg i’r tŷ presennol gael ei adeiladu tua 1840 gan gadw rhai o’r waliau gwreiddiol, ond mae’r cerrig a’r llechi mawr tan draed yn dyst i’r hanesion i gyd – ac weithiau ar noson damp bydd y cerrig yn serennu gydag atgof direidus o ryw noson hwyliog a fu ganrifoedd lawer yn ôl.”


Cyfeiriadau

  1. Comisiwn Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf. 2, t. 45
  2. CHC, op.cit., t.40