Melin Glan-yr-afon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:11, 25 Mai 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Safai Melin Glan-yr-afon ger fferm Glan-yr-afon ar lan ogleddol Afon Llyfnwy - ac felly ym mhlwyf Llanllyfni, gyferbyn â Lleuar Fawr.Yr enw lleol ar y felin oedd "Injan Doctor". Dywedir iddi gael ei chodi tua 1774.[1] Roedd cafn neu ffrwd felin hir o'r afon yn arwain at y felin, er mwyn gyrru'r peiriannau. Ar fap Ordnans 1888 fe ddisgrifir y felin fel 'gwaith llechi', a phrif waith y felin oedd cynhyrchu llechi ysgrifennu, a ddefnyddid yn gyffredinol mewn ysgolion ar draws Prydain yn lle llyfrau ysgrifennu papur.[2]

Erbyn 1899, fodd bynnag, roedd y map Ordnans yn ei disgrifio fel melin wlân. Felly y disgrifiwyd hi ar fapiau 1920 a 1948 hefyd. Gan fod y mapiau hyn yn nodi a oedd melinau'n dal i droi neu ddim, gellir fod yn weddol sicr fod Melin Glan-yr-afon yn dal i drin gwlân tan ar ôl yr ail ryfel byd.

Gweitha'r modd, mae'r perchnogion presennol wedi dewis ail enwi'r felin fel The Woollen Mill, Clynnog Road.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Manylion gwerthwr tai Dafydd Hardy, [1], cyrchwyd 02.08.2018
  2. Hen Luniau Dyffryn Nantlle (Cyngor Gwlad Gwynedd, 1985), llun 43.