Gorsaf reilffordd Bontnewydd (Rheilffordd Nantlle)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:30, 17 Ionawr 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Gorsaf reilffordd Bontnewydd

Sefydlwyd Gorsaf reilffordd Bontnewydd tua 1856 ar gyfer trenau Rheilffordd Nantlle, a dynnid gan geffylau, ac mae olion adeilad yr orsaf i'w gweld mewn cae i'r gorllewin o drac Rheilffordd Eryri heddiw. Adeiladwyd yr adeilad, mae'n bur debyg, dan gyfarwyddyd Edward Preston, prydleswr newydd y lein. Yno roedd un o ddim ond 3 neu 4 man pasio ar hyd y lein ar ôl newidiadau Preston.[1]

Fe'i caewyd tua 1865 ac nid oedd gorsaf o gwbl yn Y Bontnewydd wedyn hyd nes i Reilffordd Eryri agor arosfan i'r gogledd o'r bont dros afon Gwyrfai (h.y. y tu draw i ffin Uwchgwyrfai) ym 1999.

Cyfeiriadau

  1. J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire, )Oakwood, 1981), tt.103, 105