Gorsaf reilffordd Bontnewydd (Rheilffordd Nantlle)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:16, 10 Medi 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Gorsaf reilffordd Bontnewydd

Sefydlwyd Gorsaf reilffordd Bontnewydd ar gyfer trenau Rheilffordd Nantlle a dynnwyd gan geffylau tua 1856 ac mae olion adeilad yr orsaf i'w gweld mewn cae i'r gorllewin o drac Rheilffordd Eryri heddiw. Adeiladwyd yr adeilad, mae'n bur debyg, dan gyfarwyddyd Edward Preston, prydleswr newydd y lein. Yno oedd un o ddim ond 3 neu 4 man pasio ar hyd y lein ar ôl newidiadau Preston.[1]

Fe'i chaewyd tua 1865 ac nid oedd gorsaf o gwbl yn y Bontnewydd wedyn hyd nes i Reilffordd Eryri agor arosfan i'r gogledd o'r bont dros yr afon Gwyrfai (h.y. y tu draw i ffin Uwchgwyrfai) ym 1999.

Cyfeiriadau

  1. J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire, )Oakwood, 1981), tt.103, 105