Afon Dwyfach

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:28, 4 Ebrill 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Afon Dwyfach yn cyrraedd y môr ger Llanystumdwy ar ôl llifo trwy gwmwd Eifionydd o'i tharddle yn Uwchgwyrfai, ar lethrau mynydd Bwlch Mawr. Yr afon hon oedd yn troi Melin Pant-glas. Cyfansoddodd y bardd Robert ap Gwilym Ddu (Robert Williams 1766-1850) o'r Betws Fawr gywydd nodedig iawn ar lannau Afon Dwyfach. Ystyrir y cywydd hwnnw ymysg darnau gorau barddoniaeth Gymraeg diwedd y 18g a dechrau'r 19g.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma