Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:29, 23 Awst 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon yw'r gymdeithas hanes sirol ac felly'n ymddiddori yn hanes Uwchgwyrfai. Mae wedi cynnal ambell i gyfarfod yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai, ac mae llawer o wybodaeth i'w cael o fewn cloriau Trafodion y Gymdeithas, a gyhoeddir yn flynyddol. Ceir rhestr o holl erthyglau'r Trafodion hyd 2008 ar wefan Cymdeithas Ddinesig Bangor, [1]. Cyhoeddwyd mynegai manwl i'r 24 rhifyn cyntaf o'r Trafodion hefyd.

Ymysg sylfaenwyr y Gymdeithas ym 1938 oedd Gwilym T JOnes (Clerc y Cyngor Sir), Bob Owen (Croesor), Dr. Tom Richards (Llyfrgellydd Coleg y Brifysgol, Bangor), a W. Gilbert Williams. Golygydd cyntaf y Trafodion oedd yr Athro T. Jones Pierce.

Mae rhestr yr aelodau ar gyfer 1938-9 ar gael yn Nhrafodion cyntaf y Gymndeithas. Roedd dros 200 wedi ymaelodi, ond ychydig o'r rheiny oedd yn byw o fewn ffiniau Uwchgwyrfai. Dyma restr o'r aelodau cyntaf hyn o Uwchgwyrfai, ac efallai y gellid hawlio mai dyma restr o'r rhai oedd â diddordeb yn hanes y cwmwd ar y pryd:

Y Parch. John Davies, Y Ficerdy, Clynnog Fawr
Huw Pyrs Gruffydd, 58 Ffordd Rhedyw, Llanllyfni
John Gwilym Jones, Angorfa, Y Groeslon
Robert G. Jones, Tŷ'r Ysgol, Llandwrog
Dr J. R. Morgan, Ysgol y Sir, Pen-y-groes
Huw Parri, Heol y Dwr, Pen-y-groes
Y Parch Gwynfryn Richards, Y Rheithordy, Llanllyfni
Miss B. Dew Roberts, Plas Tryfan, Rhostryfan
Miss J. Roberts, Tanydderwen, Rhostryfan
Harry Schofield, Plas Tandinas, Llandwrog
T. O. Williams, Stryd y Ffynnon, Pen-y-groes
W. Gilbert Williams, Tal-y-bont, Rhostryfan
W. T Williams, Ysgol y Cyngor, Pen-y-groes.

Hefyd, talwyd tanysgrifiad er cof am y diweddar J. R. Williams, Aber Alaw, Rhosgadfan.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. [1]
  2. Gwybodaeth o rifyn cyntaf Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, (1939), tt. v-x.