Pont Newydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:07, 13 Awst 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Pont Newydd yw enw'r bont a saif ar ffin cwmwd Uwchgwyrfai rhwng hen derfynnau plwyfi Llanwnda a Llanbeblig. Mae'n croesi Afon Gwyrfai, yr ail bont ffordd o'r môr, a drosti rhêd y ffordd A487, sy'n arwain i Borthmadog. Serch yr enw, nid y bont bresennol a roddodd yr enw i'r pentref sy'n sefyll y ddau ben iddi, sef Y Bontnewydd. Mae'r enw yn cyfeirio at y bont flaenorol dros Afon Gwyrfai a oedd yno, mae'n debyg, yn gynnar yn y 17g pan godwyd Plas-y-bont gerllaw. Mae'r bont bresennol yn dyddio o amser creu'r ffordd dyrpeg trwy'r ardal ac fe'i chodwyd tua 1810.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma