Tudur Goch ap Grono

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:34, 19 Gorffennaf 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Tudur Goch ap Grono (neu Goronwy) yn un o briodorion (deiliaid tir) Gwely Wyrion Ystrwyth yn nhrefgordd Dinlle, gan ei fod wedi ei enwi felly mewn stent (arolwg) o Uwchgwyrfai dyddiedig 13 Gorffennaf 1352.[1]

Roedd o'n ddisgynydd i Gilmyn Droed-ddu, trwy Ystrwyth ab Ednywain.

Cafodd Tudur Goch ei eni tua 1310-20, a dywedir iddi arwain mintai gref o 12000 o Gymry i ymladd ochr yn ochr â'r Saeson dan y Brenin Iorwerth III ym mrwydr Cressy (1346); bu hefyd efo'r Tywysog Du ym 1356 mewn ymgyrch ym Mhoitiers, Ffrainc. Oherwydd ei deyrngarwch fe gafodd chwe chyfer o dir ym Maladeulyn, Nantlle, tir a gipiwyd oddi ar un Tudur ap Engan gan Iorwerth I yn ystod rhyfeloedd 1282-4. Credir iddi godi plasty ar y tir hwn a ddaeth yn gartref tuelu Glynniaid Nantlle ymhen ganrifoedd.[2]

Priododd ym 1352 â Morfudd ferch Hywel ap Iorwerth Fychan, ei chweched cyfnither, a chyd-aeres tiroedd Glynllifon. Er iddo gael ei ddisgrifio fel preswylydd Plas Nantlle, symudodd y teulu yn y man i Lynllifon.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

  1. W Ogwen Williams, A Calendar of Caernarvonshire Quarter Sessions Records, (Caernarfon, 1956), t.248.
  2. J E Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.172.
  3. Y Bywgraffiadur Cymreig, (Llundain, 1953), t.262.