Pont Lyfni

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:20, 13 Mehefin 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Pont Lyfni yw enw'r bont sy'n cario'r A499, sef hen ffordd dyrpeg o Caernarfon i Bwllheli, dros Afon Llyfnwy.

Rhoddodd y bont yr enw i'r pentref gerllaw, sef Pontlyfni.

Mae sôn am y bont mewn dogfen o'r Llys Chwarter ym 1776. Cafodd Henry Parry, Moel-y-don, Ynys Môn, saer olwynion a John Hughes, Caernarfon, saer olwynion y contract am godi'r bont newydd am y swm o £460. Nodir yn y ddogfen fod yr hen bont, sef Pont-y-Cim yn "annigonol, anghyfleus ac angen ei thrwsio" a'r penderfyniad oedd codi pont newydd sbon ar y ffordd dyrpeg mewn man newydd.[1] Mae iddi dri bwa, ond mae'r waliau uchaf yn rhai modern fel nad yw'r sawl sy'n teithio drosti yn sylwi ei bod yn weddol hen.[2]

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon XPlansB/158
  2. Comisiwn Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf.2, t.45