Pont-y-Cim
Pont hynafol, ger Pontlyfni yw Pont-y-Cim.
Cafodd ei hadeiladu yn 1612, ac chafodd ei hariannu gan Catherine Bulkeley am £20. Mae llythyr oddi wrthi at yr ynadon yn cynnig talu am bont yn lle'r rhyd oedd yno cyn hynny wedi goroesi ymysg papurau'r Llys Chwarter. Awgrymai rhai ei bod wedi ei hariannu ar ôl i’w chariad foddi yn yr afon oddi tani. Gellir gweld plac ar y bont yn nodi enw Catherine a’r hyn a wnaethpwyd hi yn 1612.
Yn 1750, gorchmynnodd y Llys Chwarter yng Nghaernarfon iddi gael ei hadnewyddu a’i lledaenu er mwyn sicrhau fod ceffylau a throl yn gallu mynd trosti.
Ar ôl llifogydd yn 1935, cafodd ei thrin eto a’i lleihau o ran lled i’w maint gwreiddiol. Credir iddi fod yn un o’r pontydd hynaf (a lleiaf) ym Mhrydain sydd yn agored i draffig.