Afon Foryd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:40, 17 Medi 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Afon Foryd yn codi yn y corsdir rhwng pentrefi Dinas Dinlle a Llandwrog ac yn traenio tir gwlyb y morfa. Wrth gyrraedd tir sychach, ceir Rhyd y meirch lle mae pompren i gerddwyr, sef Pont Rhyd-y-meirch. Rhed wedyn trwy'r caeau mawr gwastad ar draws tir y morfa wedyn ac, ar ôl llifo dan Forglawdd Dinas Dinlle, yn arllwys i'r Foryd, sef y morlyn anferthol rhwng penrhyn Dinlle ar yr un llaw a'r tir mawr sy'n codi i gyfeiriad y mynyddoedd ar y llaw arall.

Er i'r afonig hon gael ei alw'n "afon", nid yw prin mwy na nant, yn llifo am gwta milltir a hanner ar draws y morfa.