Nantlle (pentref)
Mae Nantlle yn bentref chwarelyddol yn Nyffryn Nantlle, rhwng Tal-y-sarn a Drws-y-coed.
Dechreuadau
Yn wreiddiol, fe arferid galw'r ardal lle saif y pentref heddiw yn "Baladeulyn", gan fod y cysylltiad (neu'r "bala") rhwng Llyn Nantlle Uchaf a Llyn Nantlle Isaf gerllaw, a ffermydd a safle llys y Tywysogion, sef Llys Baladeulyn oedd yn yr ardal. Dywedir mai tŷ a elwid yn "Nantlle" neu "Plas-yn-Nantlle" tua 1362 a roddodd yr enw i'r pentref yn y pen-draw, er nad oedd hynny'n digwydd am fwy na phedwar can mlynedd.
Y brodyr Francis
Gweler prif erthygl Y Brodyr Francis