Aberdesach
Saif Aberdesach ar lan y môr ryw filltrir i'r gogledd o bentref Clynnog Fawr, a milltir i'r de o bentref Pontlyfni. Cofnodwyd Aberdindesach fel ffurf ar Aberdesach. Ystyr din yw 'dinas', sef caer; ac mae Desach yn debygol o olygu "yn perthyn i lwyth i Deisi" sef llwyth Gwyddelig.[1] Mae Maen Dylan ar lan y môr hanner ffordd rhwng y ddau le. Mae Aberdesach yn rhan o blwyf Clynnog, ac mae'n cael ei enw, yn syml, oherwydd i Afon Desach redeg i'r mor yn y fan hon.
Enw'r bont ar y briffordd dros yr Afon Desach yw "Pont Aberdesach".
Ceir yno gasgliad bach o dai, rhai ohonynt yn dai a godwyd yn weddol rad fel cabanau aros ar lan môr yn y 1920au a 1930au.
Ni bu erioed gapel nag ysgol yma, ond roedd adeilad Yr Iard efo'i waliau uchel arfer gweithredu fel man gadw a dosbarthu glo, gan fod llongau bach hwylio arfer dod â llwythi o lo i'r traeth, gan eistedd ar y traeth i ddadlwytho wedi i'r llanw fynd allan - arfer cyffredin yn y parthau hyn yn y 19g. Roedd odyn galch hefyd yn y cyffiniau, i drin carreg galch a gariwyd i'r ardal i'w ddefnyddio'n wrtaith.
Rhwng Aberdesach a Chlynnog Fawr ar lan y môr yr oedd rhes o fythynnod pysgotwyr a elwid "Y Borth"; maent wedi diflannu o ganlyniad i erydiad yr arfordir.[2]
Nid nepell o Aberdesach ceir fferm fawr Penarth, y'i chysylltir â hanesion y Mabinogi.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma