Afon Desach

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:54, 14 Mehefin 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Afon Desach yn codi yn ardal Bwlch Derwin ac yn llifo i'r môr yn Aberdesach. Mae'n rhedeg i'er gogledd-orllewin trwy bentref bach Tai'n Lôn; gerllaw y pentref hwnnw saif Melin Faesog yr arferwyd cael ei throi gan ddyfroedd y Desach.

Mae'r enw'n hen iawn ac yn deillio o darddiad Gwyddeleg ac yn ffurf ar Déissech, sef "yn perthyn i'r Déisi." Llwyth Celtaidd o Iwerddon oedd y Déisi. Cofnodwyd Aberdindesach fel ffurf ar Aberdesach. Ystyr din yw 'dinas', sef caer. Ymddengys felly fod yr enwau lleoedd hynafol hyn yn profi bod y Déisi wedi ymsefydlu am gyfnod yn y rhan yma o Wynedd, er mai gyda Dyfed y maent yn cael eu cysylltu'n bennaf yng Nghymru.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Wicipedia: tudalen ar Aberdesach, yn dyfynnu R>J>Thomas, Enwau Afonydd a Nentydd Cymru (Caerdydd, 1938), t.13