Pontlyfni

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:18, 3 Gorffennaf 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Pontlyfni yn bentref ger y môr ym mhlwyf a chymuned Llanllyfni. Mae'n sefyll ar y brifordd A499. Bu siop gyffredinol yma hyd yn ddiweddar, ynghyd â chapel bach. Mae siop ceginau a modurdy sy'n arbenigo mewn cerbydau amaethyddol a masnachol yn dal yno, a nifer o safleoedd i wersylla a charafanio. Mae Pont-y-Cim gerllaw. Yr oedd Melin-y-Cim yn y pentref. Mae'r ffaith fod y pentref yn cael ei enw o bont arall yn yr ardal, a hynny'n ddiweddarach, sef Pont Lyfni, a godwyd ym 1776 yn ôl pob tebyg, yn awgrymu mae yn y 19g a 20g y tyfodd y lle i fod yn bentref.

Carreg fellt Pontlyfni

Mae Pontlyfni yn enwog ym myd seryddiaeth am ddigwyddiad ym mis Ebrill 1931, pan syrthiodd maen awyr (Carreg fellt Pontlyfni) i'r ddaear ar dir fferm Coch-y-bug wedi sŵn aruthrol dros ardal eang.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau