Kate Roberts

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Llenor oedd Catherine ‘Kate’ Roberts (1891-1985).

Ganwyd yn Rhosgadfan ar Chwefror 13 1891 i Owen Owen Roberts a Catherine Roberts. Mae hi’n adnabyddus iawn fel un o brif lenorion Cymru, ac yn nodedig am ei harddull arbennig a'i gallu i ymafael a phynciau sensitif am fywyd dosbarth gweithiol Cymreig yn y 20g. Priododd a Morris T. Williams yn 1928, a bu'r ddau yn rhedeg Gwasg Gee yn Ninbych yn ystod y 1930au. Rhai o’i nofelau mwyaf adnabyddus yw Traed mewn Cyffion, Y Byw sy’n Cysgu a Te yn y Grug. Cyhoeddodd ei hunangofiant ‘Y Lon Wen’ yn 1960.[1] Derbyniodd doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1950, a derbyniodd ‘Fedal y Cymmrodorion yn 1961. Bu farw ar Ebrill 14, 1985.[2] Roedd Kate Roberts hefyd yn genedlaetholwr Cymreig[3].

"Cae'r Gors", Rhosgadfan.

Cyflwynodd ei hen gartref, a oedd wedi mynd i gyflwr sâl, i'r genedl. Trowyd yr adeilad yn "furddyn rheoledig", gan dynnu ei do, plaster mewnol a choediach. Yn ddiweddarach, cafwyd grantiau ac yn dilyn ymdrech leol a arweiniwyd gan (ymysg eraill), Dewi Tomos, fe adferwyd y tŷ i'w hen gyflwr ac ychwanegwyd ystafell ddarlithio gan ei agor i'r cyhoedd. Gan nad oedd agor rheolaidd yn llwyddiant, rhoddwyd rheolaeth y lle yn nwylo CADW, a gellir ymweld â'r safle trwy drefnu ymlaen llaw.[4]


Cyfeiriadau