Melin Bryn-y-gro

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:23, 17 Mai 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Melin Bryn-y-gro ger y fferm o'r un enw ym mhlwyf Llanllyfni. Safai ar ochr y lôn o Lanllyfni i gyfeiriad Graeanog, yr ochr arall i'r rheilffordd i fferm Bryn-y-gro. Melin ŷd a drowyd gan ddŵr Afon Cwm Dulyn oedd y felin hon, ac roedd ffrwd felin wedi ei gwneud i gludo dwr yr afon yn uwch i fyny na'r felin i lyn melin. Fe'i dangosir ar fap Ordnans 25" i'r filltir a gyhoeddwyd ym 1918 fel melin oedd yn dal i droi.

Y cofnod cyntaf am y felin hon yw hwnnw yn y Record of Carnarvon, lle'i nodir fel y felin ar gyfer trigolion Nancall, Caer Du a Bodychain. Dyddiad y cofnod hwn yw 1470.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

  1. Gweler dan Bodellog ar y safle hon.